Pwy ydym ni?
Ni yw’r bobl i sicrhau bod pob plentyn yn breuddwydio am yrfaoedd posibl iddo ef neu hi yn y dyfodol.
Mae Romodels yn cael ei weithredu gan dîm deinamig o arbenigwyr ac ymddiriedolwyr sydd ag amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau. Gyda sylfaen gref mewn addysg, gyrfaoedd, ymchwil, technoleg, marchnata, cyllid, a datblygu cynnyrch, rydym yn frwd dros sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu. Gyda’n gilydd, rydym yn barod i newid y realiti ar gyfer plant oedran cynradd ledled y wlad, gan wneud ein taith yn un gyffrous a llawn potensial.
My Story
This is your About page. This space is a great opportunity to give a full background on who you are, what you do and what your site has to offer. Your users are genuinely interested in learning more about you, so don’t be afraid to share personal anecdotes to create a more friendly quality. Every website has a story, and your visitors want to hear yours. This space is a great opportunity to provide any personal details you want to share with your followers. Include interesting anecdotes and facts to keep readers engaged. Double click on the text box to start editing your content and make sure to add all the relevant details you want site visitors to know. If you’re a business, talk about how you started and share your professional journey. Explain your core values, your commitment to customers and how you stand out from the crowd. Add a photo, gallery or video for even more engagement.
Laura Labonne
Sylfaenydd
Dros15 mlynedd o brofiad mewn sefydliadau addysg blaenllaw yn cynghori llywodraethau a busnesau newydd mewn dros 25 o wledydd.
Mae ei chariad at ymchwil yn sicrhau ein bod yn cynnwys gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth gref yn ein gwaith.
Emily Jones
Darlunydd
Darlunydd llyfrau plant gwobrwyedig.
Mae ei darluniau wedi dod â straeon yn fyw i theatrau, sefydliadau addysg ac awduron ledled y wlad.
Dr Eshan Parikh
Storïwr
Wedi cwblhau PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddar.
Sgriptiwr profiadol, crëwr cynnwys ac ysgolor ffilm.
Chris Jones
Addysgwr
Dros 15 mlynedd o brofiad o weithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg mewn ardaloedd cod post sydd â lefelau uchel o amddifadedd.
Aelod o Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn yr ysgolion.
Katie Jenkins
Addysgwr
Dros 10 mlynedd o brofiad o weithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd cod post sydd â lefelau uchel o amddifadedd.
Aelod o Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn yr ysgolion.
Kim Shann
Cyllid
Arbenigwr Cyllid a Thrawsnewid Busnes profiadol sy’n gweithio mewn sefydliadau nid er elw i symleiddio a chryfhau systemau a phrosesau ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol
Cymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (FCCA)
Cate Noble
Cadeirydd
Wedi cynghori amryw o sefydliadau i lywio a datblygu eu gwaith i wneud gwahaniaeth drwy addysg.
Wedi arwain sefydliad mawr yn ogystal â bod â rolau uwch mewn sefydliadau elusennol, masnachol a llywodraeth ar draws y sector addysg.
James Darley
Ymddiriedolwr
Fe’i cydnabyddir yn eang gan ei sector fel arbenigwr blaenllaw mewn recriwtio graddedigion, felly mae’n arbenigwr yn yr hyn y mae angen i bobl ifanc ei wneud i gael y swyddi y maent eu heisiau.
Rhan o Raglen Arweinyddiaeth Genedlaethol y Llywodraeth ar gyfer y 100 arweinydd gorau yn y Sector Cyhoeddus
Sara Piteira
Ymddiriedolwr
Profiad dwfn o’r sector arloesi cymdeithasol.
Wedi helpu busnesau newydd i adeiladu partneriaethau cryf gyda chorfforaethau, llywodraethau a phrifysgolion ar draws 30+ o wledydd.
Dr Kerry - Ann Holder
Cadeirydd
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ag arbenigedd mewn iechyd corfforol a lles plant. Mae hefyd yn eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb rhywedd a hil.
Dr Dafina Paca
Ymddiriedolwr
Darlithydd prifysgol sy’n angerddol dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac sydd wedi ymrwymo i adnabod a chwalu anghydraddoldebau systematig a strwythurol a rhwystrau rhag cael mynediad at addysg a gofal iechyd.
Dr Alyson Lewis
Ymddiriedolwr
Darlithydd mewn Datblygu Addysg ag arbenigedd mewn plentyndod cynnar a sicrhau bod datblygiad proffesiynol athrawon wed’i lywio gan ymchwil a thystiolaeth.