top of page

 Y Syniad

 Cawsom ein hysgogi i greu Romodels oherwydd i ni ddechrau gweld plant yn ein bywydau ein hunain yn cyfyngu ar eu dyheadau.
loader,gif
 Dechreuodd y cyfan gyda sgwrs ……..

Gall eiliadau fel hyn newid trywydd bywyd plentyn.

Ein hymchwil

Gwnaethom sylweddoli, drwy gynnal arolygon gyda gweithwyr addysg proffesiynol a rhieni/gofalwyr, nad digwyddiad untro yn unig oedd hwn a dim ond hap a damwain oedd bod gan Laura ffermwr yn ei rhwydwaith o ffrindiau. Felly, penderfynodd ddod ag arbenigwyr allweddol o’i holl rwydweithiau ynghyd i greu cyfle newydd i blant ledled Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mae 95% o weithwyr addysg proffesiynol a rhieni/gofalwyr yn credu y byddai eu plant yn elwa o brofiad dysgu Romodels.
Mae 85% o weithwyr addysg proffesiynol a rhieni/gofalwyr am i’w plant ddysgu am anghydraddoldebau strwythurol.

 Y credoau sy’n ein harwain

​

​

Credwn fod gan bob disgybl, waeth beth fo’i gefndir, y gallu i wireddu ei lawn botensial.

​

Credwn mai ein gwaith ni fel cenedl yw rhoi’r hyder i genhedlaeth o blant sy’n freuddwydwyr ac yn wneuthurwyr - sy’n credu yn eu gallu i dyfu ac addasu i fyd sy’n esblygu’n barhaus ac sy’n gweld eu hunain yn arweinwyr o oedran cynnar.

​

Credwn mai’r unig ffordd y gellir datgloi potensial llawn ein disgyblion yw os byddwn yn eu hysbrydoli â modelau rôl y gallant uniaethu â hwy, rhoi taith drochol iddynt sy’n archwilio posibiliadau gyrfaoedd yr unfed ganrif ar hugain a meithrin eu hunangred.

​

Dyna pam y gwnaethom greu Romodels.

​

Gadewch i ni ysbrydoli disgyblion ar draws eich ysgol i gael breuddwydion ehangach.

 

Gadewch i ni alluogi’r disgyblion yn eich bywyd i greu dyfodol iddynt eu hunain lle mae unrhyw yrfa yn bosibl.

RoModel_MASTER_ENDLINE-FINAL_Darganfod Profi Credu_Artboard 1_edited.png
bottom of page