Sut mae Romodels yn creu’r realiti newydd hwn?
Trwy rymuso cenhedlaeth o blant sy'n freuddwydwyr ac yn weithredwyr, sy'n credu yn eu gallu i dyfu ac addasu i fyd sy'n esblygu'n barhaus, ac sy'n gweld eu hunain
fel arweinwyr.
​
Rydym yn gwneud hyn trwy ein cyfuniad unigryw o arbenigedd ymarferol ac adnoddau ar alw sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm.
Mae ein porth dysgu dwyieithog ar-lein yn helpu athrawon i gefnogi eu dysgwyr drwy daith o archwilio gyrfaoedd mewn tri cham syml.


Darganfod

Profi

Credu
​Rydym yn galluogi dysgwyr i ddarganfod cyfleoedd gyrfaol amrywiol drwy ymgysylltu â Romodelau, gan eu helpu i archwilio llwybrau gyrfaoedd cudd nad oeddent efallai wedi'u hystyried o'r blaen.
​
​Mae ein rhaglen yn sicrhau bod plant mewn ysgolion cynradd yn dod i gysylltiad cynnar â gyrfaoedd, gan eu cyflwyno i fyd o bosibiliadau.
Ar ôl agor llygaid dysgwyr i fyd o bosibiliadau gyrfaol, rydym yn cynnig addysg gyrfaoedd ryngweithiol iddynt er mwyn iddynt brofi ac archwilio'r hyn maen nhw wedi'i ddarganfod.
Mae'r dull ymarferol hwn yn helpu i herio stereoteipiau o ran gyrfaoedd drwy gyflwyno llwybrau gyrfa amrywiol ac arloesol i ddysgwyr ifanc.
Darganfod
Yn gyntaf mae angen i ni alluogi disgyblion i ddarganfod byd o gyfleoedd nad ydynt wedi cael cyfle i’w harchwilio hyd yma.
Rydym yn gwneud hyn mewn dwy ffordd:
​​
-
Yn gyntaf, rydym yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n gyfarwydd i ddysgwyr.
Rydyn ni'n cyflwyno eitemau cyffredin iddynt y maen nhw'n eu gweld neu'n rhyngweithio â nhw'n rheolaidd – gwenyn, gwastraff plastig, pêl-droed, ac ati. Gan ddefnyddio'r eitemau hyn i ddal eu sylw, rydym yn gwahodd disgyblion i ddarganfod gyrfaoedd cudd yr 21ain ganrif sy'n gysylltiedig â'r gwrthrychau cyffredin hynny – gyrfaoedd nad ydynt yn debygol o fod wedi eu hystyried erioed o'r blaen. Rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno gyrfaoedd sy'n datrys problemau'r byd go iawn ac sy'n gofyn am arweinyddiaeth, creadigrwydd ac arloesedd. Ein chwe eitem gyntaf (themâu cyntaf) yw gwenyn, newid hinsawdd, pobl greadigol, pêl-droed, gwastraff plastig a thechnoleg.
​​​
​
​
​
​
​
-
Yn ail, rydym yn cyflwyno dysgwyr i fodelau rôl go iawn.
Mae ein Romodels yn gwneud swyddi sy'n ymwneud â'r gwrthrychau hynny y mae dysgwyr yn gyfarwydd â nhw. Mae eu gyrfaoedd yn creu dylanwad ac yn gofyn am arweinyddiaeth. Mae ein Romodels yn dod o gefndiroedd amrywiol ac mae ganddynt brofiadau bywyd unigryw, sy’n galluogi pob dysgwr i ddod o hyd i fodel rôl y gallant uniaethu ag ef/hi. Mae dysgwyr yn clywed Romodels yn adrodd straeon eu gyrfa a’u bywyd, straeon am oresgyn stereoteipiau ac anawsterau yn y gyrfaoedd a ddewiswyd ganddynt, er mwyn ysbrydoli'r dysgwyr​

Cwrdd â’n Romodels


Sam Garrard
Ecolegydd Morol
Mae Sam yn fam ac yn Ecolegydd Morol yn Labordy Morol Plymouth. Mae’n gweithio ar brosiectau yng Ngogledd yr Iwerydd a Singapôr i ymgyrchu yn erbyn effaith gwastraff plastig ar greaduriaid a chynefinoedd morol.
Pam? Mae 100 miliwn o greaduriaid morol yn cael eu lladd bob blwyddyn oherwydd gwastraff plastig yn y môr.


Sam Carew
​Entrepreneur
Mae Sam yn dad i bedwar ac yn entrepreneur a ddechreuodd gwmni esgidiau ymarfer sy'n dda i'r blaned. Mae'r cwmni'n defnyddio defnyddiau fegan wedi'u hailgylchu ac mae'n un o'r brandiau esgidiau carbon niwtral cyntaf yn y DU. Mae Sam yn defnyddio peth o'i elw i ailblannu coed mangrof yn Bali.
Pam? Mae 149 miliwn o esgidiau yn cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU.


Saffron Rennison
Dyfarnwr
Mae Saffron yn ddyfarnwr pêl-droed ac mae’n gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) i helpu i gynnal cystadlaethau cynghrair a chwpan ledled y wlad.
Pam? Yng Nghymru, mae cyfanswm o 1,089 o ddyfarnwyr pêl-droed, ond mae llai na 5% o'r rhain yn fenywod a merched.Mae Saffron yn gobeithio denu mwy o ferched a merched i'r teulu pêl-droed.
Morgan and Bleddyn Williams
Morol Peirianwyr er daioni

Mae dau frawd ac entrepreneur Cymraeg eu hiaith wedi sefydlu cwmni sy'n defnyddio defnyddiau gwyrdd i greu offer chwaraeon drwy argraffu 3D. Pan fydd yr offer yn cyrraedd diwedd eu hoes, mae ganddynt broses weithgynhyrchu glyfar i’w hail-bwrpasu gan eu gwneud yn gynhyrchion glanhau.
Pam? Y llynedd, aeth 8.5 miliwn tunnell i safleoedd tirlenwi yn y DU.

Miss Davis
Gwenynwyr

Mae Gwenynwyr Ysgol Gynradd Llanishen Fach wedi plannu gardd i beillwyr ar dir eu hysgol ac mae'r clwb cadw gwenyn, sy’n cynnwys Abigail sy’n7oed a Liv sy’n 11oed, yn gofalu am un cwch gwenyn.
Pam? Mae traean o'r bwyd rydym yn ei fwyta yn dibynnu ar beillio, gan wenyn yn bennaf.

Evie Furness
Garddwr Tanddwr

Mae Evie yn Arddwr Tanddwr, neu enw arall arni yw Biolegydd Morol, ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Evie yn defnyddio ei sgiliau gwyddonol i helpu i ailblannu dolydd morwellt o amgylch y DU.
Pam? Mae dolydd morwellt yn well na fforestydd glaw trofannol wrth ddal carbon ac wrth helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Profi
Unwaith y bydd llygaid disgyblion wedi’u hagor i fyd o bosibiliadau o ran gyrfaoedd, rydym am roi cyfle iddynt brofi’r hyn y maent wedi’i ddarganfod.
Gwnawn hyn trwy ddarparu gweithgareddau trawsgwricwlaidd sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru:
-
Mae pob Romodel yn gosod heriau i ddysgwyr sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’u gyrfa.
-
Mae’r heriau’n rhychwantu’r chwe Maes Dysgu - Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Y Celfyddydau Mynegiannol, Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, Iechyd a Lles a’r Dyniaethau.
-
Gall athrawon ddewis meysydd dysgu i’w blaenoriaethu, a gallant wahaniaethu dysgu ar gyfer disgyblion unigol drwy ddewis camau dilyniant a pha mor anodd yw’r gwaith.
-
Mae dysgwyr yn ennill bathodyn lliw, wedi'u codio i’r Meysydd Dysgu a Phrofiad ar gyfer yr heriau maen nhw yn eu cwblhau.
-
Mae gennym hefyd heriau 'Dysgwr ar Waith' sy'n hyrwyddo dysgu annibynnol ymhellach. Mae hyn yn cynnwys syniadau ar gyfer darpariaeth uwch a chanllawiau ar gyfer prosiectau annibynnol.
Archwiliwch ein gweithgareddau enghreifftiol
_edited_edited_edited_j.jpg)
Sam Garrard
Dyniaethau
Tynged Crwbanod y Môr
Maes Dysgu: Y Dyniaethau
Datganiad o'r hyn sy'n Bwysig: Mae ein byd naturiol yn amrywiol ac yn ddeinamig, wedi'i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
Disgrifiadau Dysgu,( Cam 2): Rwy’n gallu disgrifio sut y gall pobl a'r byd naturiol effeithio ar ei gilydd.
Rwy’n gallu disgrifio sut mae lleoedd, gofodau, amgylcheddau a thirweddau yn bwysig i wahanol bobl ac am wahanol resymau.
Amcan: Cael mewnwelediad i sut mae ein hymddygiad yn effeithio ar ecosystemau, yn yr achos hwn, riffiau cwrel.
Her Sam: Mae angen eich help arnaf i ddeall tynged crwbanod y môr bach ar ynys rydw i wedi bod yn ei hastudio. Rydw i am ddefnyddio’ch ymchwil chi i ymgyrchu yn erbyn gwastraff plastig.
Ennill eich bathodyn: Allwch chi agor wyau crwbanod y môr a darllen beth ddigwyddodd iddyn nhw? Rhowch yr wy yn y bowlen goch os oedd achos y farwolaeth yn ddynol neu yn y bowlen werdd os oedd yr achos yn naturiol. Pa batrymau rydyn ni'n eu gweld? Allwch chi feddwl am siartiau gallaf eu defnyddio yn fy ymchwil i? Beth arall gallwn ni ei wneud i newid ein hymddygiad a helpu crwbanod y môr? Sut gallwch chi eu cefnogi nhw?

Sam Carew
Mathemateg a Rhifedd
Lliw yr Esgid Nesaf
Maes Dysgu: Mathemateg a Rhifedd
Datganiad o'r hyn sy'n bwysig: Mae ystadegau'n cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae'r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.
Disgrifiadau Dysgu, Cam 1: Rwy’n gallu ymchwilio, casglu a chofnodi data sydd yn fy amgylchedd. Rwy'n dechrau cynrychioli a dehongli data, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
Amcan: Cael mewnwelediad i'r farchnad a helpu dysgwyr i ddeall cymwysiadau ymarferol ystadegau wrth wneud penderfyniadau gwybodus.
​
Her Sam: Rydw i am lansio esgid newydd. Allwch chi fy helpu i ddeall pa liw dylai fy esgid nesaf fod?
Ennill eich Bathodyn: Allwch chi ddefnyddio hoff liw y dosbarth i lywio ymchwil Sam i'r farchnad? Gadewch i ni greu pictogram gyda'n hoff liwiau. Pa liw esgid dylai Sam ei lansio?
Gadewch i ni wneud yr un peth a gofyn i’r bechgyn a’r merched ar wahân. Beth ydych chi'n sylwi arno? Oes unrhyw wahaniaethau yn y lliwiau maen nhw wedi’u dewis? Pam? Beth arall dylai Sam ei ystyried?
Credu
Ein nod yn y pen draw yw galluogi plant i weld Romodels a chredu, "Gallwn i fod fel hyn!“. Rydym am iddyn nhw gredu bod eu dyfodol yn ddiderfyn.
Rydym yn gwneud hyn drwy:
-
​Ein Canllawiau Myfyrio. Maen nhw’n helpu dysgwyr i adnabod y cryfderau maen nhw wedi'u meithrin yn ystod y cyfnod profi.
-
Ein hadnoddau "Sut i Fod yn..." . Maen nhw’n cynnwys disgrifiadau swydd, sy'n addas i blant, ar gyfer y rôl, er mwyn eu helpu i nodi pa wybodaeth a sgiliau i ganolbwyntio arnynt nawr a'r hyn sydd ei angen i wneud y rôl honno yn y dyfodol.
-
Ein “Nodiadau Atgoffa”. Mae’r rhain yn creu ffordd i ddysgwyr ddangos eu taith o archwiliadau a chyflawniadau gyrfaol ar draws yr ysgol gynradd.​​​​​​​
Gwyddonydd Ymddygiad Gwenyn y Dyfodol

Nawr

Dyfodol
Darganfod Profi Credu
Yn Romodels, rydym yn creu realiti newydd i blant drwy eu hymgysylltu o oedran cynnar mewn archwilio cyfleoedd gyrfa deinamig yn y dyfodol drwy ryngweithiadau trochol â modelau rôl bywyd go iawn.