Ein Cyrhaeddiad
.png)
Busnes Addysg a Hyfforddiant y Flwyddyn yn y DU
Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i gredu "gallwn i fod fel hyn"
Allwch chi ddim bod yn rhywbeth allwch chi mo’i weld
Rydym yn dod â modelau rôl ysbrydoledig a gyrfaoedd sy'n canolbwyntio ar y dyfodol i ystafelloedd dosbarth, gan helpu dysgwyr i weld y gall dyfodol cyffrous berthyn iddyn nhw hefyd.
Mae Romodels yn rhaglen addysg gyrfaoedd ddwyieithog, sydd wedi ennill sawl gwobr, ar gyfer plant rhwng 4 a 14 oed. Fel elusen, ein cenhadaeth yw agor y byd gwaith i bob dysgwr, beth bynnag yw eu cefndir, eu cymuned neu eu profiadau bywyd.
Trwy ein platfform dysgu ar-lein, gall ysgolion gael mynediad at straeon modelau rôl go iawn, heriau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd, ac adnoddau dosbarth sydd wedi'u gwreiddio yn y Cwricwlwm i Gymru.
Gyda'i gilydd, maen nhw’n helpu dysgwyr i ddarganfod posibiliadau newydd, herio stereoteipiau a dechrau credu, "gallwn i fod fel hyn."
Ein Pam
Y Realiti Presennol

Uchelgais Disymud:
Prin bod breuddwydion gyrfa wedi newid mewn 20 mlynedd, tra bod y byd gwaith wedi trawsnewid.
Stereoteipiau:
Erbyn chwe oed, gall stereoteipiau ynghylch rhyw, ethnigrwydd, niwroamrywiaeth, gallu corfforol neu leoliad yn barod gyfyngu ar freuddwydion.
Archwilio Gyrfaoedd yn Rhy Hwyr:
Mae gyrfaoedd yn cael eu cyflwyno'n rhy hwyr, mewn digwyddiadau untro, ac yn aml yn canolbwyntio ar amrywiaeth gul o rolau adnabyddus dan arweiniad pobl nad ydynt yn edrych neu'n swnio fel nhw.
Y Gwahaniaeth gyda Romodels

Amlygiad Cynharach:
O 4–14 oed, mae ein rhaglen Darganfod, Profi, Credu yn cyflwyno plant i yrfaoedd sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, sy'n gofyn am sgiliau arloesedd, creadigrwydd a datrys problemau yn y byd go iawn.
Cynrychiolaeth sy'n Ysbrydoli:
Mae plant yn gweld modelau rôl sy'n edrych ac yn swnio fel nhw, gan chwalu stereoteipiau.
Dysgu yn y byd go iawn:
Mae dysgwyr yn ymgymryd â her ymarferol sy'n gysylltiedig â gwaith pob Romodel, gan gysylltu'r hyn maen nhw'n ei ddysgu yn eu hystafelloedd dosbarth â gyrfaoedd cyffrous yn y dyfodol.
Trawsnewid y gyrfaoedd y mae plant yn eu gweld bob dydd
Yn Romodels, rydym yn helpu ysgolion i herio'r credoau cyfyngol hynny yn gynnar.
Mae disgyblion yn teimlo'n fwy hyderus am eu dyfodol, tra bod athrawon yn teimlo eu bod wedi'u paratoi i ddod â dysgu gyrfaoedd i'r ystafell ddosbarth heb bwysau cynllunio ychwanegol. Mae ein hadnoddau wedi'u creu i fod yn rhai trochol, i wahodd disgyblion i archwilio, i ofyn cwestiynau a theimlo'n gyffrous am yr hyn y gallent fod. Mae disgyblion wrth wraidd y dysgu, a chânt eu hannog i ddilyn eu chwilfrydedd a gwneud eu cysylltiadau eu hunain ar hyd y ffordd.


Mae'r canlyniad yn syml ond pwerus.
Trwy fodelau rôl perthnasol ac adnoddau dosbarth parod i'w defnyddio, mae disgyblion yn darganfod gyrfaoedd y tu hwnt i'r rhai maen nhw eisoes yn eu hadnabod. Maen nhw'n gweld pobl fel nhw yn gweithio mewn rolau cyffrous, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn dechrau cysylltu eu diddordebau, eu cryfderau a'u cymunedau eu hunain â'r byd gwaith ehangach.
.png)
Ein cyrhaeddiad
Diolch i'n hysgolion partner am helpu i wneud ein blwyddyn beilot yn llwyddiant. Gyda'n gilydd, rydym wedi dangos yr hyn sy'n bosibl - ac rydym yn barod i ddod â'r effaith honno i hyd yn oed fwy o ystafelloedd dosbarth y flwyddyn nesaf

58
o ysgolion partner

10,000+
o ddysgwyr

97%
o athrawon yn ein hargymell
Ein heffaith
Mae tystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos y gall amlygiad cynnar i yrfaoedd amrywiol, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, godi dyheadau, hunan-gred ac uchelgais plant
Romodels a St Gladys

Pan fydd dysgwyr yn cwrdd â modelau rôl perthnasol ac yn archwilio gyrfaoedd trwy weithgareddau ystafell ddosbarth go iawn, maen nhw’n dechrau gweld mwy o bosibiliadau iddyn nhw eu hunain.
Gallant herio rhagdybiaethau ynghylch pwy sy'n perthyn i rolau penodol, cydnabod gwerth eu cryfderau eu hunain a deall sut y gall yr hyn maen nhw'n ei ddysgu nawr gysylltu â'u dyfodol.
I ysgolion, mae hyn yn golygu bod dysgu gyrfaoedd yn dod yn rhan o sgwrs ehangach am hyder, chwilfrydedd ac uchelgais. Mae Romodels yn helpu disgyblion i edrych y tu hwnt i'r gyrfaoedd maen nhw'n eu hadnabod eisoes a dechrau credu bod dyfodol cyffrous yn agored iddyn nhw hefyd.

Ymunwch fel Ysgol Romodels
Gyda Romodels, mae disgyblion yn gweld gyrfaoedd trwy bobl y gallant uniaethu â nhw. Maen nhw’n dechrau cydnabod eu cryfderau eu hunain, gofyn cwestiynau newydd a dychmygu dyfodol gwahanol iddyn nhw eu hunain. Mae gan athrawon yr adnoddau i wneud y sgyrsiau hynny yn rhan o ddysgu ar draws y cwricwlwm.
1
Dewis eich rhaglen
2
Cyrchu adnoddau ystafell ddosbarth
3
Ysbrydoli dysgwyr trwy straeon modelau rôl
Dal i benderfynu? Gall ysgolion roi cynnig ar Romodels am ddim am dymor gyda'n pecyn Archwilwyr.
Diolch i'n cefnogwyr
Gall ysgolion, elusennau, partneriaid addysg a sefydliadau cenedlaethol ymddiried ynom.
Ni fyddai Romodels yn bosibl heb haelioni a chydweithrediad y bobl a'r sefydliadau sy'n rhannu ein gweledigaeth.
Gyda'n gilydd, rydym yn helpu dysgwyr i archwilio gyrfaoedd, deall eu hunain a darganfod modelau rôl y tu mewn a'r tu allan i'w cymunedau. Mae'r gwaith hwn yn rhoi cyfle i blant freuddwydio'n fwy, ond mae hefyd yn rhoi rhywbeth mwy ymarferol iddynt: y wybodaeth, yr adnoddau a'r gred i ddechrau gweld bod y breuddwydion hynny’n bosibl.


_edited.jpg)

























