top of page

Ni allwch fod yr hyn nad ydych yn ei weld

Diolch i’n hysgolion partner am helpu i wneud ein blwyddyn beilot yn llwyddiant. Gyda’n gilydd, rydym wedi dangos beth sy’n bosibl – ac rydym ni’n barod i ddod â’r effaith honno i hyd yn oed fwy o ystafelloedd dosbarth y flwyddyn nesaf.

Cau’r Bwlch

image.png
Comic 1_edited_edited.jpg

Ar

Comic 2_edited.jpg

Ar

Comic 3_edited.jpg

Ar 

Gall eiliadau fel hyn newid trywydd bywyd plentyn.

Lightbulb icon_edited.png

Cau’r Bwlch

Dream and research icon_edited.png

Diolch i’n hysgolion partner am helpu i wneud ein blwyddyn beilot yn llwyddiant. Gyda’n gilydd, rydym wedi dangos beth sy’n bosibl – ac rydym ni’n barod i ddod â’r effaith honno i hyd yn oed fwy o ystafelloedd dosbarth y flwyddyn nesaf.

3_Believe.jpg

95%

Ni allwch fod yr hyn nad ydych yn ei weld

illustrative icons_edited.png
Untitled_Artwork 4 (2)_edited.jpg

58

Ni allwch fod yr hyn nad ydych yn ei weld

Ein cenhadaeth fel elusen yw agor byd o bosibiliadau gyrfa i blant 4-14 oed, waeth beth fo’u cefndir neu eu profiadau bywyd, a hynny trwy ein platfform dysgu dwyieithog ar-lein ar gyfer ysgolion.

Dyma lle daw gyrfaoedd yn fyw, lle mae chwilfrydedd yn tyfu a lle mae plant yn dechrau gweld eu hunain mewn dyfodol newydd a chyffrous.

 Ydych chi am gael mynediad at ein rhaglen addysg gyrfaoedd ddwyieithog, i ysbrydoli breuddwydion ac archwilio llwybrau gyrfa amrywiol i’ch dysgwyr? Fel ysgol bartner Romodels, gall athrawon ddefnyddio gwahanol Romodels ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a chefnogi disgyblion trwy gydol eu blynyddoedd yn yr ysgol gynradd. Mae hyn yn grymuso athrawon i deilwra taith archwilio gyrfaoedd yn eu hystafell ddosbarth.

Ein cenhadaeth fel elusen yw agor byd o bosibiliadau gyrfa i blant 4-14 oed, waeth beth fo’u cefndir neu eu profiadau bywyd, a hynny trwy ein platfform dysgu dwyieithog ar-lein ar gyfer ysgolion.

Dyma lle daw gyrfaoedd yn fyw, lle mae chwilfrydedd yn tyfu a lle mae plant yn dechrau gweld eu hunain mewn dyfodol newydd a chyffrous.

Realiti Newydd_golygwyd_golygwyd_golygwyd_golygwyd.
Dream and research icon_edited.png

 Sut mae Romodels yn creu’r realiti newydd hwn?

Ni yw’r bobl i sicrhau bod pob plentyn yn breuddwydio am yrfaoedd posibl iddo ef neu hi yn y dyfodol.

Mae Romodels yn cael ei weithredu gan dîm deinamig o arbenigwyr ac ymddiriedolwyr sydd ag amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau. Gyda sylfaen gref mewn addysg, gyrfaoedd, ymchwil, technoleg, marchnata, cyllid, a datblygu cynnyrch, rydym yn frwd dros sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu. Gyda’n gilydd, rydym yn barod i newid y realiti ar gyfer plant oedran cynradd ledled y wlad, gan wneud ein taith yn un gyffrous a llawn potensial.

ChatGPT Image Jul 14, 2026, 08_54_48 AM.png

Laura Labonne

Sylfaenydd

Sefydlodd Laura Romodels ar ôl i’w merch gael gwybod na allai fod yn ffermwr am ei bod yn ferch — eiliad a luniodd ei hymrwymiad i herio stereoteipiau a chodi uchelgais yn gynnar.

Yn gyn-aelod o McKinsey & Company a Banc y Byd, mae Laura yn dod â phrofiad mewn strategaeth sy’n seiliedig ar ymchwil ac effaith gymdeithasol i’w rôl, gan arwain twf a phartneriaethau Romodels ledled Cymru.

Elin Hawke

Addysgwr

Mae gan Elin ddealltwriaeth gref o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a phrofiad digidol. Mae’n angerddol dros greu platfformau hygyrch, hawdd eu deall sy’n ei gwneud hi’n hawdd i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â’r cynnwys.

Fel Cydymaith Profiad Defnyddwyr, mae’n cefnogi datblygiad parhaus platfform Romodels, gan sicrhau ei fod yn hawdd ei lywio, yn weledol ddeniadol, ac wedi’i ddylunio o amgylch anghenion ysgolion.

Kim Shann

Cyllid

Arbenigwr Cyllid a Thrawsnewid Busnes profiadol sy’n gweithio mewn sefydliadau nid er elw i symleiddio a chryfhau systemau a phrosesau ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol

Cymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (FCCA)

James Darley

Ymddiriedolwr

Fe’i cydnabyddir yn eang gan ei sector fel arbenigwr blaenllaw mewn recriwtio graddedigion, felly mae’n arbenigwr yn yr hyn y mae angen i bobl ifanc ei wneud i gael y swyddi y maent eu heisiau.

Rhan o Raglen Arweinyddiaeth Genedlaethol y Llywodraeth ar gyfer y 100 arweinydd gorau yn y Sector Cyhoeddus

Dr Kerry - Ann Holder

Cadeirydd

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ag arbenigedd mewn iechyd corfforol a lles plant. Mae hefyd yn eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb rhywedd a hil.

Dr Alyson Lewis

Ymddiriedolwr

Darlithydd mewn Datblygu Addysg ag arbenigedd mewn plentyndod cynnar a sicrhau bod datblygiad proffesiynol athrawon wed’i lywio gan ymchwil a thystiolaeth.

Charly Cope

Rheolwraig Prosiect

Ymunodd Charly â Romodels fel Rheolwr Prosiect, gan ddod ag angerdd dros wneud newid cadarnhaol i blant a thalent i wneud i bethau ddigwydd y tu ôl i'r llenni.

Mae hi'n goruchwylio cyflwyno prosiectau ar draws Romodels, gan sicrhau bod amserlenni'n cael eu bodloni, prosesau'n cael eu hymgorffori, a'r bobl iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. O gydlynu rhanddeiliaid ac olrhain cynnydd, i wirio gydag aelodau'r tîm a chynnal momentwm, mae Charly yn sicrhau bod prosiectau'n symud ymlaen yn effeithlon ac yn effeithiol.

Gyda chefndir gweinyddu a rheoli prosiectau ym myd addysg, a deng mlynedd o fyw yng Nghymru, mae Charly wedi eisiau gweithio gydag achos sy'n helpu pobl ifanc, a merched yn arbennig, i weld y gallant fod beth bynnag maen nhw eisiau bod, ac roedd Romodels yn teimlo fel y ffit berffaith.

Emily Jones

Darlunydd

Darlunydd llyfrau plant gwobrwyedig.

Mae ei darluniau wedi dod â straeon yn fyw i theatrau, sefydliadau addysg ac awduron ledled y wlad.

Cate Noble

Cadeirydd

Wedi cynghori amryw o sefydliadau i lywio a datblygu eu gwaith i wneud gwahaniaeth drwy addysg.

Wedi arwain sefydliad mawr yn ogystal â bod â rolau uwch mewn sefydliadau elusennol, masnachol a llywodraeth ar draws y sector addysg.

Sara Piteira

Ymddiriedolwr

Profiad dwfn o’r sector arloesi cymdeithasol.

Wedi helpu busnesau newydd i adeiladu partneriaethau cryf gyda chorfforaethau, llywodraethau a phrifysgolion ar draws 30+ o wledydd.

Dr Dafina Paca

Ymddiriedolwr

Darlithydd prifysgol sy’n angerddol dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac sydd wedi ymrwymo i adnabod a chwalu anghydraddoldebau systematig a strwythurol a rhwystrau rhag cael mynediad at addysg a gofal iechyd.

Gadewch i ni ysbrydoli disgyblion ar draws eich ysgol i gael breuddwydion ehangach.

 

Gadewch i ni alluogi’r disgyblion yn eich bywyd i greu dyfodol iddynt eu hunain lle mae unrhyw yrfa yn bosibl.

RoModel_MASTER_ENDLINE-FINAL_Darganfod Profi Credu_Artboard 1_edited.png
  • Facebook
  • Instagram
bottom of page