top of page

 Sut mae Romodels yn creu’r realiti newydd hwn?

Ni yw’r bobl i sicrhau bod pob plentyn yn breuddwydio am yrfaoedd posibl iddo ef neu hi yn y dyfodol.

Mae Romodels yn cael ei weithredu gan dîm deinamig o arbenigwyr ac ymddiriedolwyr sydd ag amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau. Gyda sylfaen gref mewn addysg, gyrfaoedd, ymchwil, technoleg, marchnata, cyllid, a datblygu cynnyrch, rydym yn frwd dros sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu. Gyda’n gilydd, rydym yn barod i newid y realiti ar gyfer plant oedran cynradd ledled y wlad, gan wneud ein taith yn un gyffrous a llawn potensial.

Laura Labonne

Sylfaenydd

Sefydlodd Laura Romodels ar ôl i’w merch gael gwybod na allai fod yn ffermwr am ei bod yn ferch — eiliad a luniodd ei hymrwymiad i herio stereoteipiau a chodi uchelgais yn gynnar.

Yn gyn-aelod o McKinsey & Company a Banc y Byd, mae Laura yn dod â phrofiad mewn strategaeth sy’n seiliedig ar ymchwil ac effaith gymdeithasol i’w rôl, gan arwain twf a phartneriaethau Romodels ledled Cymru.

Elin Hawke

Addysgwr

Mae gan Elin ddealltwriaeth gref o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a phrofiad digidol. Mae’n angerddol dros greu platfformau hygyrch, hawdd eu deall sy’n ei gwneud hi’n hawdd i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â’r cynnwys.

Fel Cydymaith Profiad Defnyddwyr, mae’n cefnogi datblygiad parhaus platfform Romodels, gan sicrhau ei fod yn hawdd ei lywio, yn weledol ddeniadol, ac wedi’i ddylunio o amgylch anghenion ysgolion.

Kim Shann

Cyllid

Arbenigwr Cyllid a Thrawsnewid Busnes profiadol sy’n gweithio mewn sefydliadau nid er elw i symleiddio a chryfhau systemau a phrosesau ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol

Cymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (FCCA)

James Darley

Ymddiriedolwr

Fe’i cydnabyddir yn eang gan ei sector fel arbenigwr blaenllaw mewn recriwtio graddedigion, felly mae’n arbenigwr yn yr hyn y mae angen i bobl ifanc ei wneud i gael y swyddi y maent eu heisiau.

Rhan o Raglen Arweinyddiaeth Genedlaethol y Llywodraeth ar gyfer y 100 arweinydd gorau yn y Sector Cyhoeddus

Dr Kerry - Ann Holder

Cadeirydd

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ag arbenigedd mewn iechyd corfforol a lles plant. Mae hefyd yn eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb rhywedd a hil.

Dr Alyson Lewis

Ymddiriedolwr

Darlithydd mewn Datblygu Addysg ag arbenigedd mewn plentyndod cynnar a sicrhau bod datblygiad proffesiynol athrawon wed’i lywio gan ymchwil a thystiolaeth.

Dr Julia Jenkins

Storïwr

Mae gan Julia brofiad helaeth ym maes y Cwricwlwm i Gymru. Mae wedi arwain Rhwydwaith Cydraddoldeb a Chynhwysiant STEM am nifer o flynyddoedd, gan hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws addysg STEM.

Fel Arweinydd Addysg, mae’n cefnogi datblygu cynnwys Romodels, gan sicrhau ei fod yn gydnaws â’r cwricwlwm, yn ymgysylltiol, ac yn galluogi athrawon i ddod â dysgu am yrfaoedd o’r byd go iawn i’w hystafelloedd dosbarth yn hyderus.

Emily Jones

Darlunydd

Darlunydd llyfrau plant gwobrwyedig.

Mae ei darluniau wedi dod â straeon yn fyw i theatrau, sefydliadau addysg ac awduron ledled y wlad.

Cate Noble

Cadeirydd

Wedi cynghori amryw o sefydliadau i lywio a datblygu eu gwaith i wneud gwahaniaeth drwy addysg.

Wedi arwain sefydliad mawr yn ogystal â bod â rolau uwch mewn sefydliadau elusennol, masnachol a llywodraeth ar draws y sector addysg.

Sara Piteira

Ymddiriedolwr

Profiad dwfn o’r sector arloesi cymdeithasol.

Wedi helpu busnesau newydd i adeiladu partneriaethau cryf gyda chorfforaethau, llywodraethau a phrifysgolion ar draws 30+ o wledydd.

Dr Dafina Paca

Ymddiriedolwr

Darlithydd prifysgol sy’n angerddol dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac sydd wedi ymrwymo i adnabod a chwalu anghydraddoldebau systematig a strwythurol a rhwystrau rhag cael mynediad at addysg a gofal iechyd.

bottom of page